Hollalluog sy'n fy nghodi O'r pydewau mawr i fynu; Ar y graig fy nhraed a hwylia, Gwnaed y byd a'r cnawd eu gwaetha'. Beth dāl d'rogan i mi ddrygau, Llid y ddraig a'i temtasiynau; Mae fy Arglwydd wy'n addoli Yn gwbl abal i'm gwaredu. Ei hen addewid gynt a gredaf, Yn ei ras mi ymddiriedaf; D'wedodd wrthyf fil o weithiau, Do'wn yn iach i ben fy siwrnau. Er bod uffern a'i chwmpeini Yn elynion creulon i mi, Pa'm yr ofnaf neb cre'duriaid? Yn yr Arglwydd 'rwy'n ymddiriaid. O's gwelaf etto waeth ellyllon, Cryf elynion, pla fy nghalon, Wrth yr orseddfaingc mi a waeddaf, Gwaed yr Oen a garia'r trechaf. Cadarn sail fy ffydd ddiffuant, Iesu'n eiriol mewn gogoniant, Troswy'n dadleu ei fawrion glwyfau, Gwedi congc'ro byd ac angau. Yn fy chwerwon flin gystuddiau, Weithiau a'r dagrau ar fy ngruddiau, Clywa' i'm Iesu yn llefaru Heddwch yn drag'wyddol i mi. Fy nghyfoeth byth yw'r Arglwydd Iesu, Fy nhegwch a fy nglendid ydy'; Nghyfiawnder mawr a'm prynedigaeth, Fy arch ym moreu ddydd marwolaeth. Am dano myfyrdodau cynnes Sydd fel marwor yn fy mynwes; Angherddol dān na ellir ddiffodd; Mi 'cara'n anwyl byth o'm gwirfodd. Wrth gofio glan yr hen Iorddonen, Fy enaid athrist gān yn llawen: Ar fyrr mi af i'r wlad na dderfydd, Lle mae gorfoledd yn dragywydd. Arglwydd brysia'r amser llawen, Caf gyfarfod draw'r Iorddonen, A'm hen frodyr sydd yn canu I'm Hanwylyd hyfryd heddy'.Morgan Rhys 1716-79 [Mesur: 8888] gwelir: F'enaid cred anghofia'th adfyd |
It is the Almighty who raises me Up from the great pits; On the rock my feet shall sail, Let the world and the flesh do their worst. What keeps foretelling evils for me, The wrath of the dragon and its temptations; My Lord I am worshipping is Completely able to deliver me. His old former promise I will belief, In his grace I will trust; He told me a thousand o tims, I will come whole to the end of my journey. Although hell and its company are Cruel enemies to me, Why shall I fear any creatures? In the Lord I am trusting. If I see again worse demons, Strong enemies, the plague of my heart, At the throne I will shout, The blood of the Lamb that carries the mightiest. A firm foundation of my sincere faith, Jesus interceding in glory, For me arguing his great wounds, Having conquered world and death. In my bitter, grievous afflictions, Sometimes with the tears on my cheeks, I hear my Jesus crying Peace eternally for me. My wealth forever is the Lord Jesus, My fairness and my purity he is; My great righteousness and my redemption, My ark in the seas of the day of death. About him warm meditations Are like marble in my breast; A fervent fire that cannot be extinguished; I will love him dearly forever voluntarily. On remembering the bank of the old Jordan, My sad soul, sing joyfully: Shortly I will go to the land that shall not end, Where there is rejoicing eternally. Lord, hasten the joyful time, When I may meet across the Jordan, With my old brother who are singing To my Beloved delightfully today.tr. 2017 Richard B Gillion |
|